£1.7 miliwn i gefnogi teuluoedd ac unigolion sy’n wynebu tlodi bwyd
Bydd cymorth hanfodol ar gael y gaeaf hwn i deuluoedd ac unigolion ar draws Cymru sy’n cael trafferth gyda chost bwyd, gyda £1.7 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn rhoi cymorth i’r rhai sydd fwyaf mewn angen ac yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n gweithio i atal a mynd i’r afael â thlodi bwyd yn y tymor hirach.
Bydd y cyllid yn:
- rhoi cymorth bwyd brys i unigolion drwy helpu grwpiau lleol i storio a dosbarthu bwyd i’r bobl sydd ei angen fwyaf, tra hefyd yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd
- cefnogi FareShare Cymru drwy brynu offer i storio a danfon bwyd ffres yn ystod misoedd y gaeaf a chynnal gweithgareddau addysg bwyd i helpu teuluoedd ac unigolion incwm isel i reoli costau cynyddol
- chryfhau partneriaethau bwyd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan eu helpu i fynd i’r afael ag anghenion lleol a sicrhau bod adnoddau’n cyrraedd y rhai sy’n wynebu’r heriau mwyaf
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.