Ymchwil mewn cymunedau glofaol yn datgelu sut mae hanes lleol yn dylanwadu ar faint sy’n manteisio ar frechiadau

Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd â thraddodiad glofaol cryf yn fwy tebygol o fod ag agweddau negyddol tuag at frechiadau COVID-19 a chyfnodau clo na phobl sy’n byw mewn ardaloedd nad oes ganddynt yr un hanes, yn ôl tîm o ymchwilwyr o Gymru a’r Unol Daleithiau.

Roedd y nifer a fanteisiodd ar y brechlyn yn uchel er gwaethaf hyn, yn enwedig yng Nghymru, ac roedd teimlo eu bod yn rhan o gymuned leol gref yn gwneud pobl yn fwy tebygol o dderbyn y cynnig i gael eu brechu.

Bu ymchwilwyr sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Kentucky yn cynnal arolygon a chyfweliadau yn gofyn i 9,000 o bobl sy’n byw yng Nghymru ac yn Central Appalachia am eu statws brechu ac am eu barn ynglŷn â COVID-19, eu statws economaidd, eu bywydau cymdeithasol, a’u dewisiadau gwleidyddol. Cyhoeddir eu canfyddiadau mewn adroddiad newydd, Covid and the Coalfield: Vaccine hesitance in Wales and Appalachia.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig