Pecyn cymorth newydd i helpu cyflogwyr i annog eu staff i gael brechlyn COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu eu gweithlu i gael eu brechu. Mae pecyn cymorth newydd yn cael ei lansio i gefnogi busnesau a sefydliadau wrth iddyn nhw helpu eu gweithwyr i gael y brechlyn COVID-19.

Mae’r cyfraddau brechu yng Nghymru ymysg y gorau yn y byd ac mae cynnydd aruthrol wedi’i wneud yn y saith mis diwethaf. Erbyn hyn, mae dros dri chwarter oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos.

Mae brechu wedi helpu i wanhau’r cysylltiad rhwng heintiau’r coronafeirws a salwch difrifol a derbyniadau i’r ysbyty. Ond mae perygl y gallai rhagor o bobl fynd yn ddifrifol wael os na fydd y cyfraddau brechu yn cynyddu ymhellach wrth i’r amrywiolyn Delta barhau i ledaenu yng Nghymru a gweddill y DU.

Mae Gweinidogion wedi dweud nad yw byth yn rhy hwyr i dderbyn y cynnig o frechiad yng Nghymru.Mewn ymgais i gynyddu’r cyfraddau brechu ymhellach fyth, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, heddiw’n lansio pecyn cymorth newydd i gefnogi cyflogwyr.

Bydd yn eu hannog i wneud y canlynol:

  • Bod mor hyblyg â phosibl pan fydd yn amser i staff gael brechlyn, a allai gynnwys rhoi amser o’r gwaith gyda thâl i weithwyr fynd i’w hapwyntiadau ar gyfer y ddau ddos o’r brechlyn
  • Defnyddio adnoddau’r ymgyrch a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth yn eu sefydliad a rhoi mynediad i weithwyr at wybodaeth ddibynadwy a chywir am y brechlyn
  • Rhannu’r ddogfen Holi ac Ateb a’r fideos cyngor arbenigol i egluro’r brechlyn ac ateb cwestiynau cyffredin sydd gan weithwyr
  • Annog staff i fod yn wyliadwrus o gamwybodaeth, a’u hannog i ddefnyddio ffynonellau dibynadwy fel icc.gig.cymru os ydynt yn chwilio am wybodaeth neu atebion i gwestiynau am y brechlyn
  • Creu hyrwyddwyr brechu ar gyfer gweithwyr drwy annog staff i drafod eu profiadau a rhannu gwybodaeth â chydweithwyr, teulu a ffrindiau.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig