Miliwn o bigiadau atgyfnerthu COVID wedi’u rhoi yng Nghymru yr hydref hwn

Mae ystadegau a gyhoeddwyd yn dangos bod dros filiwn o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref hwn.

Daeth cadarnhad hefyd y dylai pawb sy’n gymwys yng Nghymru nawr fod wedi cael gwahoddiad i gael eu pigiad atgyfnerthu diweddaraf. Mae Llywodraeth Cymru wedi annog unrhyw un sy’n gymwys am bigiad, ond sydd heb gael gwahoddiad, i gysylltu â’i fwrdd iechyd lleol.

Dechreuodd y rhaglen pigiadau atgyfnerthu ym mis Medi, ac mae’n cael ei chynnal ochr yn ochr â’r rhaglen flynyddol i frechu rhag y ffliw. Bydd hyn yn helpu i atgyfnerthu imiwnedd y rhai sydd â risg uwch yn erbyn salwch difrifol ac i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig