Manteisiwch ar y cynnig i gael brechlyn atgyfnerthu Covid, ymhlith arwyddion o don bosibl yn yr hydref
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl mewn grwpiau cymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn atgyfnerthu Covid-19. Daw’r rhybudd wrth i drosglwyddo cymunedol, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau o Covid-19 gynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf – arwyddion cynnar o don bosibl yn yr hydref.
Mae menywod beichiog, pobl 50 oed a throsodd, y rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ymhlith y rhai sy’n gymwys i gael y brechlyn Covid-19 am ddim, diogel ac effeithiol.
Mae’n bwysig bod y bobl hynny sy’n gymwys yn cadw llygad am eu gwahoddiad brechlyn. Caiff ei anfon atynt drwy’r post gan eu bwrdd iechyd lleol. Fe’u cynghorir yn gryf i fanteisio ar y cynnig, a blaenoriaethu eu hapwyntiad lle y bo’n bosibl.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.