Mae gan Ofal Sylfaenol a Chymunedol rôl bwysig i’w chwarae o ran atal gordewdra a rheoli pwysau
Mae dau adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gall gofal sylfaenol a chymunedol gefnogi’r gwaith o atal gordewdra a rheoli pwysau yng Nghymru, a’r cymorth sydd ei angen ar y gweithlu i gyflawni’r rôl bwysig hon.
Mae gordewdra yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol a chynyddol yng Nghymru, ac mae’r pandemig wedi amlygu ymhellach risgiau cynyddol canlyniadau andwyol i bobl sy’n byw gyda gordewdra. Yn 2020, nodwyd bod 61 y cant o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew.
Mae’r adroddiad cyntaf yn edrych ar anghenion gofal sylfaenol pobl sy’n byw gyda gorbwysedd neu ordewdra yng Nghymru.
Trafododd yr ail astudiaeth fewnwelediad ymddygiadol gan y gweithlu gofal sylfaenol ar gefnogi rheoli pwysau.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.