Mae cyflogwyr yn pryderu mwy nag erioed am iechyd a llesiant gweithwyr

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y pryderon cynyddol sydd gan gyflogwyr am iechyd a llesiant meddwl a chorfforol eu gweithwyr, yn dilyn pandemig y Coronafeirws.

Nododd ymchwil cyflogwyr a gynhaliwyd gan dîm Cymru Iach ar Waith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru rhwng mis Mawrth a mis Mai 2021 fod 73 y cant o gyflogwyr wedi datgan bod iechyd meddwl a llesiant gwael wedi dod yn fwy o broblem i weithwyr a bod cyflogwyr yn fwy pryderus nag erioed am eu rôl o ran cefnogi a rheoli hyn.

Nododd cyflogwyr hefyd bryder am gynnydd canfyddedig mewn problemau iechyd corfforol ymhlith eu staff, yn enwedig anhwylderau cyhyrysgerbydol, a chynnydd mewn ymddygiad afiach fel yfed alcohol, diffyg ymarfer corff ac arferion bwyta afiach sy’n arwain at fagu pwysau. Mae’r rhain i gyd yn ffactorau risg ar gyfer cyflyrau iechyd cronig sy’n datblygu dros amser.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig