Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol i gefnogi’r gwaith o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan

Mae cynllun gweithredu newydd Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol wedi’i lansio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi’r gwaith o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan (AWWMP) 2021, yn unol â Chynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2022-24.

Mae’r AWWMP yn canolbwyntio ar daith rheoli pwysau unigolyn o ymyrryd yn gynnar hyd at gymorth arbenigol ac mae’n cydnabod pwysigrwydd gofal sylfaenol a chymunedol, gan ddisgrifio’r lleoliadau hyn fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl â phryderon iechyd a llesiant.

Mae’r cynllun dwy flynedd cychwynnol yn ceisio galluogi gofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi rheoli pwysau, drwy gyfres o bedwar nod blaenoriaeth.

Bydd y nod cyntaf yn cefnogi’r daith sy’n ‘canolbwyntio ar y person’ mewn gofal sylfaenol a chymunedol, drwy helpu i: gydgysylltu gofal ar draws cwrs bywyd person, gan osgoi darnio gofal; cryfhau atal gordewdra o fewn rheoli cyflwr yn yr hirdymor; ac ystyried ffyrdd gwell o gefnogi mynediad teg at yr AWWMP.

Mae’r ail nod yn canolbwyntio ar gefnogi’r gweithlu sylfaenol a chymunedol i fynd ati’n hyderus i gael sgyrsiau rheoli pwysau tosturiol, yn rhydd o stigma neu ragfarn, yn ogystal â chefnogi a galluogi’r gweithlu eu hunain i gael pwysau iach a mynediad at reoli pwysau yn ôl yr angen.

Mae’r trydydd nod yn ceisio gwneud y defnydd gorau posibl o ddata dros bwysau a gordewdra a thechnolegau gofal iechyd digidol, er enghraifft, drwy ddarparu cyfleoedd i bobl ddefnyddio data pwysau/taldra/BMI cywir, dilys wedi’u hunanadrodd mewn sgyrsiau gofal sylfaenol a chymunedol, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu ap GIG Cymru ac adnoddau digidol eraill â sicrwydd ansawdd gyda’r bwriad o helpu gofal sylfaenol a chymunedol i helpu’r rhai sydd dros bwysau neu’n ordew.

Yn olaf, bydd y pedwerydd nod yn datblygu dulliau arwain a llywodraethu i ysgogi’r gwaith o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan mewn gofal sylfaenol a chymunedol, drwy gydweithio â’r holl bartneriaid dan sylw, gan gefnogi dulliau integredig, ymgorffori gwella ansawdd i gefnogi rheoli pwysau sy’n canolbwyntio ar y person a hyrwyddo diwylliant sy’n cefnogi rheoli pwysau sy’n canolbwyntio ar y person e.e. dylanwadu ar gyfathrebu â’r gweithlu sylfaenol a chymunedol ac ymgysylltu â nhw.

Meddai Zoe Wallace, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae gan ofal sylfaenol a chymunedol rôl ganolog i’w chwarae o ran atal gordewdra a rheoli pwysau. Fel system, mae angen i ni gefnogi a galluogi’r gweithlu gofal sylfaenol i gyflawni eu rôl yn AWWMP yn effeithiol. Mae’r cynllun gweithredu dwy flynedd cychwynnol yn darparu dull i wella canlyniadau, a gyflawnir drwy ofal sylfaenol a chymunedol.

Mae’r gwaith wedi’i gefnogi a’i oruchwylio gan Grŵp Llywio Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol amlasiantaethol. Hoffem ddiolch i’r Grŵp Llywio am eu cyfraniadau unigol a chyfunol i ddatblygu’r cynllun gweithredu dwy flynedd cychwynnol hwn, sy’n cwmpasu Ebrill 2022-24.”

Mae’r ‘Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol (Cynllun Gweithredu PCOP), (2022-2024)’ wedi’i ddatblygu gan y Ganolfan Datblygu Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac Arloesi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan adeiladu ar ddau adroddiad, wedi’u datblygu a’u cyhoeddi ym mis Medi 2021 gan y Ganolfan, sy’n disgrifio anghenion gofal sylfaenol pobl sy’n byw gyda gordewdra yng Nghymru a mewnwelediadau ymddygiadol gan y gweithlu gofal sylfaenol ar gefnogi rheoli pwysau.

Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol (2022-2024)

Mae gofal sylfaenol a chymunedol yn cwmpasu ystod eang ac amrywiol o leoliadau a rolau, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: y pedwar contractwr gofal sylfaenol (Fferylliaeth Gymunedol, Optometreg Gymunedol, Practis Deintyddol, Practis Cyffredinol); gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd; y rhai sy’n gweithio mewn rolau cymunedol ehangach e.e. bydwragedd cymunedol, ymwelwyr iechyd, a nyrsys ardal; y gweithlu gofal iechyd heb ei gofrestru; a rhagnodwyr cymdeithasol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig