Cyhoeddi enw’r Comisiynydd Plant Cymru nesaf

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Rocio Cifuentes fydd Comisiynydd Plant newydd Cymru.

Bydd Ms Cifuentes yn cychwyn yn y swydd ym mis Ebrill 2022 pan fydd cyfnod Sally Holland yn dod i ben.

Mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu hawliau plant, a sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru o fudd i blant a phobl ifanc.

Rocio Cifuentes yw prif weithredwr Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), sef y prif sefydliad sy’n rhoi cymorth i gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae rôl Comisiynydd Plant Cymru yn un hynod bwysig – mae’r pandemig wedi amharu’n ddifrifol ar fywydau plant. Bydd y rôl yn helpu i lunio’r dyfodol i genhedlaeth o blant y mae’r coronafeirws wedi bod yn rhan enfawr o’u bywydau. Dyma pam ei bod mor bwysig parhau i gael llais cryf, fel bod rhywun yn eiriol dros blant ac yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.

Hoffwn dalu teyrnged i Sally Holland am ei holl waith fel Comisiynydd Plant. Mae Sally wedi bod yn eiriolwr cryf dros blant a phobl ifanc yng Nghymru – o wreiddio hawliau’r plentyn mewn darnau allweddol o ddeddfwriaeth i roi cipolwg i ni ar brofiadau plant yn ystod y pandemig, drwy’r arolygon eang ‘Coronafeirws a fi’ sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae Sally Holland wedi gwneud cyfraniad aruthrol i genhedlaeth o blant yng Nghymru, a fydd yn parhau am gyfnod hir iawn.

Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n rhaid i’n penderfyniadau ni, fel Llywodraeth Cymru, adlewyrchu lleisiau plant a phobl ifanc. Rwy’n falch mai Rocio Cifuentes, ein Comisiynydd newydd, fydd yn gwneud y rôl bwysig hon.”

Derbyniodd y Prif Weinidog argymhelliad gan banel trawsbleidiol o Aelodau’r Senedd i benodi Ms Cifuentes yn Gomisiynydd Plant nesaf Cymru.

Ganwyd Ms Cifuentes yn Chile, a daeth i Gymru yn flwydd oed gyda’i rhieni fel ffoaduriaid gwleidyddol. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn astudio Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol cyn ymgymryd â Gradd Meistr mewn Ymchwil Gymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Bu’n arwain EYST ers y cychwyn cyntaf yn 2005. Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor Cyrff Gwirfoddol Ethnig Leiafrifol Cymru, Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe, Coleg Gwŷr a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt sef cadeirydd y panel dewis trawsbleidiol:

“Mae’n hanfodol bod gan ein Comisiynydd Plant nesaf wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad bywyd i sicrhau bod amrywiol safbwyntiau a gwerthoedd yn cael eu hystyried wrth lunio’r dyfodol mwy disglair y mae ein plant yn ei angen yn ddirfawr.

Rwy wrth fy modd bod Rocio Cifuentes wedi cael ei phenodi yn Gomisiynydd Plant Cymru. Mae ganddi arbenigedd a dealltwriaeth ddi-guro a fydd yn ddefnyddiol iawn yn y rôl ac rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio â hi dros y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd Rocio Cifuentes:

“Mae cael fy mhenodi’n Gomisiynydd Plant Cymru yn fraint ac anrhydedd o’r mwyaf. Fel ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae rôl y Comisiynydd nawr cyn bwysiced ag y bu erioed, wrth i ni gyflawni ar gyfer y genhedlaeth o blant sydd wedi byw dan gysgod Covid-19.

Rwy’n ymrwymo heddiw i sicrhau bod llais, safbwynt a dyfodol holl blant a phobl ifanc Cymru wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig