Podlediad Cymru Iach ar Waith

Mae Tîm Cymru Iach ar Waith yn falch o rannu cyfres o bodlediadau y meant wedi’i datblygu fel rhan o set newydd o adnoddau gyda’r nod o gefnogi cyflogwyr.

Mae yna bedwar podlediad x 30 munud sy’n cynnwys ystod o sgyrsiau amserol gydag arbenigwyr ynghylch iechyd yn y gweithle. Mae’r podlediadau, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol, wedi’u cynllunio i roi gwybodaeth a chefnogaeth i gyflogwyr i helpu i gadw gweithlu Cymru yn iach ac mewn gwaith.

Gallwch gyrchu’r podlediadau trwy ymweld â gwefan Cymru Iach ar Waith.

Covid-19 a Lles Meddyliol Gweithwyr  gyda Gareth Sigee, Swyddog Cymorth Menter, RCS Cymru – yn archwilio sut y gall cyflogwyr gael sgyrsiau lles hyderus a sensitif i gefnogi lles meddyliol eu gweithlu yn ystod ac ar ôl y pandemig.

Iechyd Meddwl yn y Gweithle  gyda Faye McGuiness, Mind – yn trafod yr heriau lles meddyliol sy’n wynebu’r boblogaeth oedran gweithio a’r rôl y gall cyflogwyr a gweithwyr ei chwarae wrth gefnogi iechyd meddwl a lles yn y gweithle.

Ffit i Weithio gyda Dr Chris Price, Meddyg Teulu – yn amlinellu sut y gallwch reoli presenoldeb yn y gweithle yn rhagweithiol a gwneud y defnydd gorau o’r nodyn ffitrwydd.

Cadw’r Gweithle yn Ddiogel yn ystod pandemig Covid-19 gyda Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Arweiniol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru Iach ar Waith  – yn trafod sut y gall cyflogwyr fynd i’r afael â heriau’r pandemig a’r dull gorau i sicrhau bod y gweithlu’n ddiogel yn eu gweithle.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig