Adroddiad newydd yn dweud mai nawr yw’r amser i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru ac adeiladu dyfodol gwell i bawb
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymuno â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i edrych ar ba heriau a chyfleoedd sydd yn y dyfodol ar gyfer creu Cymru fwy cyfartal.
Drwy archwilio’r tair tuedd allweddol, newid hinsawdd, newidiadau i’r ffordd rydym yn gweithio a newid demograffig, mae’r adroddiad newydd, Anghydraddoldeb yng Nghymru’r Dyfodol, yn nodi meysydd gweithredu i atal anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol rhag cael eu cario i’r dyfodol.
Dylai gweithredu ar ganfyddiadau’r adroddiad gynnwys y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb i ddatblygu polisi yn gyffredinol, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, dywed ei awduron.
Mae’r adroddiad hwn yn canfod y bydd gwneud y penderfyniadau gorau posibl wrth fynd i’r afael â thueddiadau yn y dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i lunwyr polisi feddwl am yr hirdymor a chynnwys y bobl a’r cymunedau yr effeithir arnynt.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.