DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru 2022 - Royal Welsh Showground

8 Tachwedd - 9 Tachwedd 2022
With Iechyd a Gofal Gwledig Cymru

Dysgu o’r Gorffenol, Edrych i’r Dyfodol – ffocws ar arfer gorau, arloesi ac ymchwil sy’n llywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yng nghefn gwlad Cymru

Cynhelir Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru eleni mewn fformat hybrid, gyda phobl yn gallu mynychu ar-lein neu’n bersonol ym Mhafiliwn Montgomery, maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3SY.

Themau a Llinynnau:

  • Y gwersi a ddysgwyd o bandemig Covid-19 a’u heffaith ar Iechyd a Gofal Gwledig
  • Darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal integredig mewn ardaloedd Gwledig
  • Rol Cymunedau Gwledig ym maes Iechyd a Gofal
  • Teleiechyd / Telefeddygaeth a darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal o bell mewn ardaloedd Gwledig
  • Presgripsiynu Cymdeithasol / Gwyrdd a’u heffaith ar Iechyd a Lles
  • Recriwtio, Cadw a Rolau Newydd ym maes Iechyd a Gofal mewn ardaloedd Gwledig
  • Addysg, Hyfforddiant a Datblydiadau Proffesiynol Parhaus ar gyfer gweithwyr Iechyd a Gofal proffesiynol sy’n gweithio mewn ardaloedd Gwledig

Bydd y Gynhadledd eleni eto’n cynnwys sesiwn Panel a fynychir gan Brif Weithredwyr y 3 Bwrdd Iechyd yn y Canolbarth (BIPBC, BIPHDd a BIAP) yn cymryd rhan mewn Panel, yn ogystal a 5 Sesiwn Llawn arall, 23 o gyflwyniadau Papur a thros 30 o gyflwyniadau Poster.

Mae’r Gynhadledd wedi’i hanelu at weithwyr iechyd a gofal proffesiynol, academyddion, ymarferwyr, cleifion a’r cyhoedd sydd a diddordeb mewn iechyd, lles a gofal gwledig. Gellir prynu tocynnau ar gyfer y Gynhadledd isod, gyda ychydig iawn o dal yn cael ei godi tuag at arlwyio ar gyfer y rhai sy’n mynychu’n bersonol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig