DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Estyn llaw: Cefnogi gwasanaethau i gysylltu â’r yfwyr mwyaf bregus

Dydd Mercher 18 Hydref 2023
With Alcohol Change UK

Ar-lein, dros ddau hanner-diwrnod

Yn aml, y bobl sy’n wynebu’r problemau alcohol mwyaf difrifol sy’n cael yr anhawster mwyaf wrth geisio cymorth. Yn y seiat ddysgu ar-lein yma, byddwn ni’n clywed gan bobl gyda phrofiad personol a phroffesiynol am sut gallwn ni estyn llaw yn well.

Mae cynadleddau Alcohol Change UK yn canolbwyntio ar roi i chi i atebion ymarferol i gwestiynau anodd y byd go-iawn – ar sut i gwrdd â phobl lle maen nhw a’u cynorthwyo i oresgyn y rhwystrau sy’n eu cadw rhag mwynhau bywyd llawn.

Dyna rai o’r siaradwyr a gadarnhawyd hyd yn hyn:

  • Mike Ward o Alcohol Change UK, sy’n galw am ehangu ein diffiniadau o’r niwed i’r ymennydd mae yfwyr bregus yn ei ddioddef.
  • Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a’r Fro (CAVDAS), ar fanteision gweithio gyda chymheiriaid cefnogol i gyrraedd pobl ar y stryd.
  • Adfam, yn rhannu profiadau oedolion o fyw gyda phartner sy’n goryfed.
  • Recovery Cymru, yn sôn am natur unigryw pob taith tuag at adferiad, a sut dylai gwasanaethau ymateb.
  • Gemma Yarwood o Brifysgol Metropolitan Manceinion, yn trafod gofal diwedd-oes i bobl sy’n defnyddio sylweddau.

Os ydych chi am sicrhau bod gwasanaethau alcohol yn cyrraedd pawb dylen nhw ei gyrraedd, dyma’r gynhadledd i chi.

Darllenwch yr agenda yma.

Mae tocynnau ar gael am £35 +TAW am bob hanner-diwrnod, neu £60 +TAW am y ddau hanner-diwrnod gyda’i gilydd.

Adborth am ddigwyddiadau

Mae gennym ddiddordeb bob amser i glywed adborth ar ein digwyddiadau ac awgrymiadau ar rai yn y dyfodol. Os hoffech roi adborth inni ar y digwyddiad hwn, defnyddiwch y ddolen isod.
Rhowch adborth

Tagiau

Digwyddiadau eraill yn y gorffennol

Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig