Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Llun 30 Mai 2022
With Samaritans Cymru
Wedi cyfnod digynsail o darfu ac ansicrwydd, gwyddom fod llawer o bobl wedi dioddef trawma ac iechyd meddwl gwael. Mae’r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau i lawer o bobl yng Nghymru, ac mae’r rhai oedd yn agored i niwed ar ddechrau’r cyfnod bellach yn wynebu lefelau uwch o drallod nag erioed o’r blaen.
Mae croeso ichi ymuno â Samaritans Cymru am gyflwyniad, a chyfle i fynd trwy’r adnodd, a fydd yn cynnwys cyflwyniad ar brofiad byw gan Heads above the Waves a sylwadau o bwys gan siaradwyr eraill:
• Lynne Neagle AoS, Dirprwy Weinidog Iechyd a Lles meddyliol
• Si Martin, Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Heads Above the Waves (HATW) – Gwerth profiad byw ym maes cymorth iechyd meddwl
• Alys Cole-King, Seiciatrydd Cyswllt Ymgynghorol, 4 Mental Health and Connecting with People – Pwysigrwydd cynlluniau diogelwch hunanladdiad
Os nad ydych wedi cofrestru eto ac yr hoffech ddod, dylech gysylltu â Laura Frayne ar [email protected] i gofrestru. Gweler isod y neges e-bost wreiddiol am y digwyddiad.
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'