Dyddiad + Amser
14 Hydref 2022
9:30 YB - 12:30 YP
Yn ôl Llywodraeth Cymru roedd 31% o blant teuluoedd yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol rhwng 2017-2020. Mae tyfu i fyny mewn tlodi yn effeithio ar lesiant plant, eu datblygiad yn y blynyddoedd cynnar, iechyd corfforol a meddyliol, cyflawniad addysgol a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol. Mae cydnabod a deall effeithiau tlodi ar blant a theuluoedd yn hanfodol i wella’u canlyniadau.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un o bob sector a phob sefydliad sy’n awyddus i archwilio sut y gall eu gwaith gefnogi codi ymwybyddiaeth o dlodi a’i effaith ar blant a phobl ifanc.
14 Hydref 2022
9:30 YB - 12:30 YP
Allanol
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.